Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru

EPP 85 - Buddug Mai Bates


Medi  20

Diolch am gyfle i ymateb ar y mater yma. Hoffwn ddweud yn glir nad yw pawb yn Sir Drefaldwyn yn erbyn y cynlluniau sydd ar droed. Yn wir mae'r gwrthwynebwyr yn frwd ac yn uchel iawn eu cloch. Hyd yn hyn nid oes ganddynt unrhyw gynlluniau i ddod ac unrhyw fuddsoddiad gwahanol i'r ardal yma. Heb fuddsoddiad ni fydd ein cymunedau yn gynaladwy. Yn barod mae gennym ardal eang o'r sir sydd wedi dioddef o ddifyg datblygiad a gweledigaeth h.y. yn Llanwddyn.Mae'r pwyslais yno wedi bod mor gryf i gadw'r lle yr un fath.... Yn awr pan mae bron yn rhy hwyr mae diddordeb yn cael ei ddangos yn yr ardal.

Os na fydd gweledigaeth, buddsoddiad a symud ymlaen, bydd y rhannau eraill o'n sir yn union fel Llanwddyn, heb deuluoedd ifanc, heb ysgolion heb gymunedau bywiog dim ond pobl wedi ymddeol.

Mae'n rhaid symud ymlaen er mwyn cael amgylchedd fyw a chynaladwy. 

 

Yn gywir

Buddug Mai Bates